"Chwarae'n Troi'n Chwerw" lyrics

"Chwarae'n Troi'n Chwerw"

Mae'th fywyd di yn ddedwydd
Rwyt ti'n fodlon ar dy fyd
Ond mae 'na rywbeth bach yng nghefn dy ben
Sy'n dy boeni di o hyd

Mae'n dod yn haws deud celwydd
Sy'n swnio fel y gwir
A ti'n gwbod yn iawn bod y gwpan yn llawn
Y ffordd o'th flaen yn glir

Ond mae chwarae'n troi'n chwerw
Mae'r gwin yn troi'n sur
Mae'r wen yn troi'n ddagrau
A'r wefr yn troi'n gur
Ac os wyt ti'n rhywle yn gwrando ar fy nghân
Cofia bod chwarae'n troi'n chwerw
Os ti'n chwara efo tân

Ac yna bob yn dipyn
Mae'r darnau'n dod ynghyd
Ti'n dod i ddeall sut mae cael
Y gorau o ddau fyd

Ond ti'n trio peidio gwrando
Ar y lleisiau yn dy ben
Sy'n cyffwrdd ar gwirionedd
Sy'n gudd o tu ol i'r llen

Ond mae chwarae'n troi'n chwerw
Mae'r gwin yn troi'n sur
Mae'r wen yn troi'n ddagrau
A'r wefr yn troi'n gur
Ond os wyt ti'n rhywle yn gwrando ar fy nghân
Cofia bod chwarae'n troi'n chwerw
Os ti'n chwara efo tân

Mae bywyd yn rhy fyr
Ac amser yn mynd yn brin
Ti'n ymladd a'th gydwybod
Ond yn fodlon wyt ar ddim

Ac os wyt ti'n rhywle yn gwrando ar fy nghân
Cofia bod chwarae'n troi'n chwerw
Os ti'n chwara efo tân

Ac mae chwarae'n troi'n chwerw
Mae'r gwin yn troi'n sur
Mae'r wen yn troi'n ddagrau
A'r wefr yn troi'n gur
Ac os wyt ti'n rhywle yn gwrando ar fy nghân
Cofia bod chwarae'n troi'n chwerw
Sy'n chwara efo tân