"Dacw Hi" lyrics

"Dacw Hi"

Dacw hi, a'i gwyneb mewn poen
Mae hi newydd gael ei phigo gan bry ar ei chroen
Mae'n gafael mewn papur cyfagos a'i daro ar y wal
Mae'n gadael gwennynen ar ôl sydd yn sicr wedi ei dal

Mae hi'n ddoniol
(Mae hi'n ddoniol)
Mae'n sylwi pob dim
(Mae'n sylwi pob dim)
Ac mae'n medru gweld
Drwy gefn ei phen
Dim diolch I'r drefn

Mae'n fore iau ac mae'n mynd I'r gwaith
Wrth gau ei drws mae hi'n tynnu at saith
Wrth gau ei chot rhag your oerni mae hi'n colli pishyn punt
Mae'n ei bigo o fyny yn syth cyn troi nôl mewn I'r gwynt

Mae hi'n ddoniol
(Mae hi'n ddoniol)
Mae'n sylwi pob dim
(Mae'n sylwi pob dim)
Ac mae'n medru gweld
Drwy gefn ei phen
Dim diolch I'r drefn

Mae hi'n ddoniol
(Mae hi'n ddoniol)
Mae'n sylwi pob dim
(Mae'n sylwi pob dim)
Mae hi'n ddoniol
(Mae hi'n ddoniol)
Neith hi chwerthin ar ddim
(Neith hi chwerthin ar ddim)
Mae hi'n ddoniol
(Mae hi'n ddoniol)
Mae'n sylwi pob dim
(Mae'n sylwi pob dim)
Ac mae'n medru gweld
Drwy gefn ei phen
Dim diolch I'r drefn
Unwaith drachefn
Amen


Writer(s): Gruffudd Rhys, Dafydd Ieuan, Dewi Roberts, Rhodri Puw