"Trôns Mr Urdd" lyrics
"Trôns Mr Urdd"
Hei, Mr Urdd
'Neud di ddangos imi ffyrdd
O garu, heb amharu
Ar fy meddwl, yn ormodol
Dwi isho gweld fy nyfodol
O, dwi'n gwisgo trons Mr Urdd
Gwnes 'i ddwyn nhw pan oedd neb yn sbio
Cyn torri lawr a chrio
O, dwi'n gwisgo trons Mr Urdd
Mae'n cyfaddef popeth ar y bathodyn
Mae'n waeth na gwisgo blodyn
Yng Ngellilydan gyda'r wawr
Mae'r gwlith mor llachar ar y llawr
O dan y wawr
Ar y ffordd I Drawsfynydd
I drwsio'n 'sgidiau yn siop y crudd
Erbyn hanner dydd
O, dwi'n gwisgo trons Mr Urdd
Mae'n waeth na gwisgo 'sgodyn
Writer(s): Guto Pryce, Huw Bunford, Gruffudd Rhys, Dafydd Ieuan, Cian Ciaran
- AZLyrics
- S
- Super Furry Animals Lyrics